Adroddiad gan Merched y Wawr
1. Rydym yn rhedeg Canolfan Gymunedol yn Aberystwyth ac yn bryderus iawn a fyddwn yn medru fforddio ei chadw yn agored oherwydd y costau cynyddol o wresogi hen adeilad dros fisoedd y gaeaf. Mae’r grwpiau sy’n eu defnyddio yn cynnwys Urdd Sant Ioan, Grŵp Dyslecsia, Cynghorwyr sy’n cyfarfod pobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar gyffuriau, grŵp Ioga llesol a’r Gwasanaeth Iechyd i enwi dim ond rhai.
2. Mae cost y we fyd eang, cyfleustodau, bwyd a diod a chostau yswiriant a gweithwyr megis trydanwyr i gyd wedi codi yn sylweddol hefyd sy’n ychwanegu at gostau cynnal a chadw adeilad cymunedol
1. Mae wir angen cymorth ar adeiladau cymunedol elusennol i gynnal a chadw ein cymuned ac mae angen presgripsiwn llesiant i bobl hyn fedru fforddio mynychu gweithgareddau gan elusennau megis Merched y Wawr.
2. Mae angen ystyried unigrwydd cymdeithasol a hefyd costau uwch i gynnal gweithgareddau mewn ardaloedd gwledig lle nad oes is-adeiladedd o drafnidiaeth cyhoeddus a chadw costau llogi adeiladau cymunedol yn fychan er mwyn sicrhau parhad i weithgarwch cymunedol.
3. Mae wir angen ymyrraeth gan Lywodraeth Prydain a Chymru ar yr hyn a wnaed gan fanc HSBC yn ystod y flwyddyn sef codi £5 y mis o gostau ar bob cyfrif elusen sef £60 y flwyddyn, ynghyd a chodi am fynd a arian i fewn i’r banc neu eu dynnu allan – mae hyn yn cael effaith andwyol ar ein grwpiau cymunedol. Ac mae’r banciau bron a’i gwneud yn amhosibl i agor cyfrif newydd, mae hyn yn peri gofid enfawr i elusennau fel ein un ni ac yr ydym yn barod wedi colli amryw o ganghennau a chlybiau oherwydd hyn.
1. Mae hyn yn effeithio ar bob un unigolyn, mae pawb yn pryderi, ond mae y rhai sy’n hyn, yn fregus neu yn unig yn amlwg yn dioddef mwy gan nad oes modd iddynt rannu eu pryderon.
2. Mae pobl yn ei chael yn anodd i drafod pryderon gydag eraill ac mae pobl hyn yn cael hi yn anoddach fyth i ddefnyddio technoleg – felly yn methu a chael gostyngiadau sy’n cael eu cynnig am brynu ar y we ac yn sicr yn methu a chwilota am y fargen orau trwy fynd ar y rhyngrwyd.
3. Un elfen arall sy’n pryderi nifer fawr o bobl hyn a rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ydyw diffyg banciau a lle i droi i drafod eu anghenion bancio – mae yn gywilyddus i feddwl bod pobl o Bermo yn Gwynedd yn gorfod teithio i Aberystwyth i gael gwasanaeth wyneb yn wyneb mewn banc.
4. Hefyd rydym yn bryderus iawn am y diffyg cefnogaeth i adeiladau cymunedol – mae yn amhosibl mewn rhai cymunedau i gynnal cyfarfod gan nad oes adeilad pwrpasol e.e. Ysgol gynradd wedi cau, capel ag eglwys a’i ystafelloedd wedi cau, tai tafarndai a gwestai wedi cau, hen neuadd y plwyf wedi cau a chostau yswiriant, iechyd a diogelwch a cynnal a chadw a diffyg aelodau i bwyllgorau adeiladau cymunedol yn ei gwneud yn haws i gau na chadw yn agored